FIN(4) DB 11

 

Inquiry into - Welsh Government Draft Budget Proposals 2013-2014

 

Response from WWF  Cymru

 

Y sector gwyrdd bellach yn elfen bwysig yn economi Cymru

Annwyl XXX

 

Mae adroddiad newydd wedi datgelu bod yr Economi Werdd bellach yn ffactor pwysig wrth sicrhau swyddi a buddsoddiad i Gymru ac y gall fod yn allweddol i adferiad economaidd.

 

Mae’r adroddiad, UK Success  Story, (sydd wedi’i seilio ar ystadegau oddi wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol) gan y felin drafod amgylcheddol Green Alliance, yn dangos bod economi werdd y Deyrnas Unedig wedi bod yn wydn iawn yn y dirwasgiad, ac wedi tyfu mewn ffordd iach ers yr argyfwng bancio. Mae’n darogan na fydd yr economi gyffredinol yn ailgodi i lefelau 2007 hyd nes 2014 fan cynharaf, ond y bydd yr economi werdd yn tyfu 40% yn yr un cyfnod.

 

Mae’r adroddiad hwn hefyd yn dangos fod y rhan fwyaf o’r buddsoddi mawr o ffynonellau preifat, yn wahanol i fuddsoddi mewn seilwaith carbon uchel sy’n dibynnu mwy ar gyllid cyhoeddus.

 

Yng Nghymru, mae’r adroddiad yn datgelu llwyddiant syfrdanol y sector gwyrdd wrth sicrhau swyddi a buddsoddiad:

·       Bellach mae yna fwy o swyddi carbon isel ac amgylcheddol (41,506) yng Nghymru nag yn y masnachau modur (21,500), gwasanaethau ariannol (27,800) a thelathrebu (6,600)

·       Mae ynni adnewyddadwy’n dod yn bwerdy economaidd yng Nghymru. Ym mlwyddyn ariannol 2011-12 yn unig, yng Nghymru cafwyd gwerth £443 miliwn o fuddsoddi a chrëwyd 1299 o swyddi yn y sector, wrth i gapasiti ynni adnewyddadwy yng Nghymru dyfu mwy na thraean rhwng 2007 a 2010 

 

Mae WWF Cymru’n credu ei bod yn bwysig i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ei rhaglen ddeddfwriaethol yn darparu’r hyder mae’r sector preifat ei angen ar gyfer y buddsoddiad hirdymor hwn yng Nghymru. Rydym yn credu ei bod yn bwysig i’r biliau ar Ddatblygu Cynaliadwy, Cynllunio a’r Amgylchedd weithio gyda’r polisïau datblygu economaidd iawn i sicrhau y bydd hyn yn digwydd.

Yn awr yw’r adeg i sicrhau bod cefnogaeth drawsbleidiol i ddatblygu cynaliadwy yn amlwg iawn i’r buddsoddwyr posibl hyn.

Ni fydd WWF Cymru yn cyfrannu at ymchwiliad y Pwyllgor i gyllideb y Llywodraeth. Fodd bynnag, rydym yn pwyso arnoch, yng ngoleuni’r adroddiad hwn, i ystyried pwysigrwydd cefnogi’r sector hwn, yn arbennig mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy, a gwelliannau i effeithlonrwydd ynni ac adnoddau.

Gallwch lawrlwytho graffigyn gwybodaeth Green Alliance yma a’r data sydd y tu ôl iddo yma.

Yn gywir

 

 

Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru